Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 21 Hydref 2019

Amser: 11.30 - 12.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5613


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Carwyn Jones AC

Dai Lloyd AC

Tystion:

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Frances Duffy, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Tom Henderson, Llywodraeth Cymru

Richard Lewis, Llywodraeth Cymru

Jackie Price, Llywodraeth Cymru

Sarah Tyler, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Rachael Davies (Dirprwy Glerc)

Sara Moran (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Nia Moss (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC.

O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC fuddiant perthnasol yn eitem 2.

</AI1>

<AI2>

2       Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

</AI2>

<AI3>

17    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI3>

<AI4>

12    Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI4>

<AI5>

14    Y newid yng nghyfansoddiad Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma a nododd fod y Prif Weinidog wedi derbyn gwahoddiad y Pwyllgor i ddod i'w gyfarfod ar 25 Tachwedd i drafod Diwygio ein Hundeb yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor.

</AI5>

<AI6>

16    Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Dyfodol Cyfraith Cymru: categoreiddio, cydgrynhoi, codeiddio

Nododd y Pwyllgor ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a chytunodd i wahodd y Cwnsler Cyffredinol i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI6>

<AI7>

3       Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

</AI7>

<AI8>

4       Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI8>

<AI9>

4.1   SL(5)455 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Phrotocoalau Prinder Difrifol) (Cymru) 2019

Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef.

</AI9>

<AI10>

5       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI10>

<AI11>

5.1   SL(5)453 - Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya)2010 (Dirymu) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal â hyn, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch adolygiad o’r Cod Ymarfer ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol.

</AI11>

<AI12>

5.2   SL(5)454 - Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI12>

<AI13>

6       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

</AI13>

<AI14>

6.1   SL(5)456 - Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol)(Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

</AI14>

<AI15>

7       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI15>

<AI16>

7.1   C(5)035 - Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI16>

<AI17>

8       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI17>

<AI18>

8.1   WS-30C(5)153 - Rheoliadau Bwyd a Diod (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

</AI18>

<AI19>

8.2   WS-30C(5)154 - Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI19>

<AI20>

9       Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

</AI20>

<AI21>

9.1   SICM(5)26 - Rheoliadau Plaleiddiaid (Diwygio) 2019

Nododd y Pwyllgor yr offeryn a’r llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Cafodd y Pwyllgor gopi caled o’r llythyr cyn y cyfarfod, ac roedd yn fodlon ag ef.

</AI21>

<AI22>

10    Papur(au) i'w nodi

</AI22>

<AI23>

10.1 Llythyr gan y Prif Weinidog: Dogfen bolisi newydd - Diwygio ein Hundeb

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ac, fel y nodwyd yn flaenorol, roedd y Prif Weinidog wedi cytuno i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI23>

<AI24>

10.2 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cyfarfod pedairochrog â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

</AI24>

<AI25>

11    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI25>

<AI26>

13    Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI26>

<AI27>

15    Dadl ar Brexit:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf hon gan Lywodraeth Cymru:

</AI27>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>